
Mae 24 o bobl wedi cael eu harestio mewn ymgyrch fawr yn erbyn troseddau difrifol a chyfundrefnol ym Mangor.
Mae'r tîm gan Heddlu Gogledd Cymru, sy'n cynnwys chwe swyddog heddlu a rhingyll, wedi canolbwyntio eu hymdrechion ar gynyddu amlygrwydd ar y stryd fawr, Hirael a Maesgeirchen yn ogystal â chynnal sawl gwarant cyffuriau yn y dinas.
Ers dechrau mis Mawrth, mae 24 o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â throseddau gan gynnwys cyflenwi cyffuriau, gyrru ar gyffuriau, ymddygiad treisgar, gwyngalchu arian, lladrad, a chael eu chwilio ar warant.
Mae'r tîm hefyd wedi cynnal stopio a chwilio rhagweithiol 56 o weithiau a arweiniodd at 28 canlyniad positif am yr un a amheuwyd o fod yn gyffuriau dosbarth A, B ac C ac eiddo wedi'i ddwyn.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Arwel Hughes: "Dwi'n ddiolchgar am y cymorth cychwynnol 'da ni wedi'i dderbyn gan drigolion ac asiantaethau partner yn dilyn lansiad Adfywio Bangor. Dwi'n gobeithio y gallwn barhau gweithio hefo'n gilydd er mwyn gwella delwedd y stryd fawr yn yr wythnosau nesaf."
"Byddwn yn parhau cynnal patrolau amlwg iawn. Dwi'n annog aelodau'r gymuned siarad hefo swyddogion am unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw am gyffuriau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol."
"Fy nod yn y pen draw ydy gwneud i'r ddinas deimlo fel lle saff i fyw, gweithio ac ymweld â hi, gan arwain at Stryd Fawr Bangor yn lle deniadol i fusnesau newydd fasnachu."
Gall unrhyw un sydd hefo pryderon am droseddau difrifol a threfnedig neu ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mangor siarad hefo swyddog ar y stryd, ymweld â gorsaf heddlu Bangor, ar gwefan Heddlu Gogledd Cymru, drwy ffonio 101, neu drwy gysylltu hefo Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.