Academi gofal yn lansio yng Ngwynedd

Thursday, 14 November 2024 17:12

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae cynllun newydd wedi'i lansio i fynd i'r afael â phrinder staff yn y sector gofal yng Ngwynedd.

Yn ôl y cyngor sir, bydd yr Academi Gofal yn ymateb tymor byr i'r broblem staffio, ac yn ddatrysiad tymor hir i'r broblem ehangach drwy alluogi staff i ddatblygu eu sgiliau.

Mae'r academi newydd yn rhoi cyfle i unigolion dderbyn profiadau ymarferol, cyfleoedd i ddatblygu gyrfa ac i gael eu mentora gan arbenigwyr yn y maes.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn yr academi yn derbyn cyflog tra'n gweithio tuag at gymwysterau cydnabyddedig.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, aelod cabinet dros iechyd a llesiant: "Mae Academi Gofal Gwynedd yn gyfle gwych i chi ddatblygu eich gyrfa yn y maes Gofal drwy weithio gyda phobl brofiadol, derbyn cymwysterau a chael cyflog yr un pryd."

"Fel ym mhob sector a sefydliad rydym yn wynebu heriau wrth recriwtio gweithwyr gofal, ar draws meysydd gofal cymdeithasol oedolion, plant ac anabledd dysgu."

"Mae ein staff gofal presennol yn ymrwymedig a phroffesiynol, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu gwaith yn enwedig drwy gyfnod y pandemig. Mae staff heddiw yn wynebu cynnydd yn y galw am wasanaethau oherwydd cyfuniad o ffactorau."

"Ein nod gyda'n cynlluniau recriwtio yw parhau i ddarparu gwasanaeth i'n trigolion bregus a'u teuluoedd drwy gyfrwng y Gymraeg ac ar yr un pryd buddsoddi yn ein gweithlu lleol."

"Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi'n hoffi gwneud gwahaniaeth wrth gefnogi pobl yn eu cymunedau, yna mae'r Academi Gofal yn berffaith i chi."

Cafodd yr academi ei lansio mewn digwyddiad yn Llanystumdwy nos Fercher, a bydd yn cynnal cyfres o sesiynau cyhoeddus ar draws y sir er mwyn rhannu gwybodaeth gydag unigolion sydd â diddordeb ymuno â'r cynllun neu ddod i weithio yn y sector gofal yng Ngwynedd.

Mae'n agored i unrhyw un dros 17 oed sydd â diddordeb mewn rôl rheoli gofal, dod yn weithiwr cymdeithasol neu'n therapydd galwedigaethol o fewn y cyngor.

Ychwanegodd Gwenno Williams, swyddog yng ngwasanaethau cymdeithasol: "Mae llawer o fuddiannau i'w cael wrth i chi ymuno â'r academi, megis ennill cyflog wrth ddysgu, derbyn cefnogaeth a chymorth profiadol, cwblhau cymwysterau o werth, datblygu llwybrau gyrfa clir a gweithio mewn awyrgylch Gymreig."

"Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy'n llawn cymhelliant, sydd ag agwedd garedig a gofalgar ac sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill."

"Byddwn yn annog aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb mewn gwaith yn y maes gofal - iddynt eu hunain neu efallai ar gyfer eu plant sydd ar fin gorffen yn yr ysgol neu'r coleg - i fynychu un o'n sesiynau galw heibio am sgwrs anffurfiol. Cadwch lygaid am fanylion y dyddiadau a'r lleoliadau ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y cyngor." 

Bydd y sesiynau cyhoeddus yn cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol

  • Dydd Llun 25 Tachwedd: Y Ganolfan Ddysgu, Caernarfon - 2-6pm
  • Dydd Mawrth 26 Tachwedd: Byw'n Iach Glaslyn, Porthmadog - 3-6pm
  • Dydd Mercher 27 Tachwedd: Neuadd Dwyfor, Pwllheli - 3-6pm
  • Dydd Iau 28 Tachwedd: Llyfrgell Bangor - 3.30-6pm
  • Dydd Llun 2 Rhagfyr: Llyfrgell Blaenau Ffestiniog, 3-6pm
  • Dydd Llun 9 Rhagfyr: Llyfrgell Dolgellau - 3-6:30pm
  • Dydd Llun 16 Rhagfyr: Llyfrgell Tywyn - 3-6pm

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb yn yr academi gofal, ewch i wefan Cyngor Gwynedd.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'