
Mae gwydnwch ar yr A55 a chyfleoedd ar gyfer teithio llesol wedi gwella ers agor y cynllun Aber i Dai'r Meibion, gwerth £30m, yn swyddogol bron i ddwy flynedd yn ôl.
Roedd y cynllun, a oedd yn cynnwys £20m o gyllid Ewropeaidd, yn targedu rhan o'r A55 a oedd bron i 50 mlwydd oed ac nad oedd yn cyrraedd y safonau dylunio presennol. Roedd yn dueddol o ddioddef llifogydd, ac ychydig iawn o ddarpariaeth ddiogel oedd i gerddwyr a beicwyr gerllaw.
Yn ogystal â chynnal gwaith draenio a gwella'r gerbytffordd, roedd gwella diogelwch hefyd yn un o nodau’r cynllun, a hynny thrwy gael gwared ar fylchau yn y llain ganol a oedd wedi'u gadael i gerbydau amaethyddol groesi.
Adeiladwyd llwybr teithio llesol 4km i redeg ochr yn ochr â cherbytffordd yr A55 ar ôl ei gwella, gyda golygfeydd o'r arfordir a'r mynyddoedd.
Yn y ddwy flynedd ers iddi gael ei agor yn swyddogol ar 19 Ebrill 2023, ni fu unrhyw lifogydd ar y ffordd.
Hefyd, bu cynnydd bron i 10 gwaith yn nifer y bobl sy'n cerdded a beicio ar hyd y llwybr, gan ddangos bod pobl yn manteisio ar y llwybr diogel a hardd.
Dywedodd ysgrifennydd dros drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Y rhan hon o'r A55 oedd y rhan hynaf o'r ffordd a chan ei bod yn dioddef llifogydd, roedd yn cael effaith ar wydnwch y llwybr."
Gyda mwy o law o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd roedd y risgiau i'r rhan hon o'r llwybr yn cynyddu. Ers cwblhau'r gwaith ni fu unrhyw lifogydd ar y rhan hon. Mae hefyd wedi cyflawni ar nifer o fesurau diogelwch."
"Mae'n wych gweld hefyd sut mae'r llwybr teithio llesol newydd sy'n rhedeg ochr yn ochr â'r gerbytffordd yn cael ei ddefnyddio'n helaeth. Wedi'i leoli wrth ymyl yr arfordir gyda golygfeydd o fynyddoedd Eryri, mae'n ased go iawn i'r gymuned ac ymwelwyr fel ei gilydd."
"Rydyn ni eisiau darparu gwell trafnidiaeth i bawb, ac mae'r cynllun hwn yn un enghraifft o sut mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny."
Mae cynlluniau eraill a gwblhawyd yng Ngogledd Cymru yn cynnwys ffordd osgoi Caernarfon a'r Bontnewydd a agorodd yn 2022 sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar y cymunedau lleol drwy leihau faint o draffig sy'n teithio drwy'r trefi a'r pentrefi lleol.
Darparwyd llwybrau teithio llesol hefyd, i annog cerdded a beicio.