5 Degawd gan Huw 'Huwco' Jones yn Oriel Môn

Huwco / Oriel Môn

Mae Oriel Môn yn dathlu'r artist Huw 'Huwco' Jones mewn arddangosfa ôl-syllol sy'n edrych yn ôl ar 5 ddegawd o waith a'i ddatblygiad fel artist ers ei baentiad cyntaf yn 14 oed.

Mae gwaith Huwco wedi cael ei arddangos ar hyd a lled y Deyrnas Unedig ac mae rhai o'i baentiadau yn rhan o'r Casgliad Cenedlaethol a sawl casgliad preifat.

Dyma'r tro cyntaf i rai o'i weithiau cynharaf gael eu harddangos a dim ond yn gymharol ddiweddar y daethpwyd ar eu traws a hynny wrth fynd ati i ddewis gwaith i'w gynnwys yng Nghasgliad Cenedlaethol Cymru.

Meddai Huwco: "Ro'n i wedi anghofio'n llwyr am rai o'r paentiadau a pan ddaethant i ddewis y darnau roedd fel petaem yn edrych arnynt am y tro cyntaf."

Mae Huwco'n tueddu i weithio mewn cyfresi ac mae pob cyfres yn trawsnewid o un i'r llall, o baentiadau llac i rai sydd bron yn ffoto-real ac yna'n ôl i waith ystumiol fel ei baentiadau diweddaraf.

Yr hyn sy'n clymu ei waith yw'r llawenydd amlwg y mae'n ei gael wrth ddefnyddio paent  a'i ymgais i wneud synnwyr o'r sefyllfa y mae ynddi. Mae hon yn sioe anhygoel ac Oriel Môn yw'r gofod perffaith ar gyfer arddangosfa ôl-syllol mor fawr â hon.

Mae'r arddangosfa'n cynnwys dros 150 o baentiadau ac maent wedi cael eu gosod mewn modd rhwydd a deinamig a phob hyn a hyn mae paneli gwybodaeth rhwng y paentiadau sy'n adrodd hanes Huwco o'i blentyndod hyd heddiw. 

Meddai Nicola Gibson, rheolwr profiad ymwelwyr, Oriel Môn: "Rydym wrth ein bodd cael cynnal yr arddangosfa ôl-syllol hon o waith Huw. Mae'r arddangosfa'n mynd â chi ar siwrnai sy'n dangos y gwahanol arddulliau a themâu y mae wedi'u harchwilio fel artist proffesiynol dros gyfnod o 5 degawd". 

Bydd gwaith Huwco'n cael ei arddangos tan dydd Sul 27 Ebrill. Mae Oriel Môn ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul rhwng 10yb a 5yp ac mae mynediad yn rhad ac am ddim. Cysylltwch am fwy o wybodaeth, 01248 724444 / www.orielmon.org

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'