Bydd Uwch Gynghrair Cymru yn ehangu o ddeuddeg i 16 tîm fel rhan o ailwampiad mawr o brif gynghrair pêl-droed Cymru.
O ddechrau tymor 2026-27, fe fydd Cymru Premier yn cynyddu o’r fformat presennol yn dilyn adolygiad strategol gan CBDC (Cymdeithas Bel-Droed Cymru).
Bydd y gynghrair hefyd yn rhannu’n dri grŵp, yn hytrach na dau, ar gyfer cyfnodau olaf y tymor.
Bydd gemau ail gyfle newydd i bennu dyrchafiad a diraddio rhwng yr Uwch Gynghrair a dwy gynghrair ail haen y Gogledd a'r De.
Yn ôl CBDC, mae adolygiad helaeth o’r strwythur wedi digwydd gyda sawl fformat cynghrair yn cael eu harchwilio a’u hasesu.
Aseswyd y fformatau yn erbyn nodau craidd strategaeth y uwch gynghrair i sichrau cysadleuaeth gyfforus, adelidau proffil y gynghrair ac i tyfu presenoldeb cyfartalog gemau.
Beth yw'r fformat newydd?
O’r tymor 2026/27 ymlaen, bydd Uwch Gynghrair Cymru / Cymru Premier yn cynyddu o’r fformat 12 tîm presennol i gystadleuaeth 16 tîm.
Bydd pob clwb yn chwarae yn erbyn ei gilydd ddwywaith, unwaith adref ac unwaith i ffwrdd.
Ar ôl 30 gem, bydd y gynghrair yn rhannu’n dri grŵp. Bydd y chwech uchaf yn y tabl yn chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith eto, gyda'r clwb ar frig y tabl ar ôl diwrnod gêm 35 yn cael ei goroni’n bencampwyr.
Bydd y clybiau yn yr ail safle i’r chweched safle yn gymwys i'r gemau ail gyfle ar gyfer cymwysterau Ewropeaidd diwedd y tymor.
Bydd y clybiau yn y safleoedd seithfed i’r degfed yn chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith eto, gyda’r clwb yn y seithfed safle ar ôl 33 gem yn hawlio’r lle olaf a fawrygir yn y gemau ail gyfle cymhwyster Ewropeaidd diwedd y tymor.
Yn olaf, bydd y clybiau yn y safleoedd 11eg i’r 16eg hefyd yn chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith eto.
Ar ddiwedd diwrnod gêm 35, bydd y clybiau yn y 15fed a’r 16eg safle yn cael eu hisraddio’n awtomatig, tra bydd y clwb yn y 14eg safle yn cystadlu mewn gêm ail gyfle.
Yma, byddant yn cwrdd â’r enillydd rhwng yr ail safle yn y Cymru North a’r ail safle yn y Cymru South am yr hawl i aros yn y uwch gynghrair.
Pam y strwythur hwn?
Dywed CBDC fod tri nod allweddol y tu ôl i'r fformat newydd
• Cysylltiad â’r cefnogwyr: Trwy greu prinder gemau a darparu gemau o bwys drwy gydol y tymor, mae’n fwy tebygol y bydd cefnogwyr yn parhau’n gysylltiedig o’r dechrau hyd y diwedd. Mae’r strwythur hefyd yn cynyddu cynrychiolaeth ddaearyddol ar draws Cymru a’r cyfle i feithrin perthynas â chefnogwyr newydd.
• Ansawdd a pherygl: Mae'r fformat yn helpu i gynnal lefel gystadleuol uchel, gan roi paratoad gwell i dimau uchaf ar gyfer gemau cymwysterau Ewropeaidd ac yn darparu cyfleoedd datblygu ychwanegol i dalent newydd. Mae cyflwyno gêm ail gyfle israddio yn ychwanegu lefel newydd o berygl i'r gynghrair.
• Twf cynaliadwy: Gyda deinameg gystadleuol well a chyfleoedd cynyddol ar gyfer twf mewn refeniw dyddiau gemau, nawdd a darlledu, mae'r strwythur newydd yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ar gyfer Cymru Premier. Dylai refeniw masnachol clybiau eu hunain gynyddu hefyd gyda mwy o gemau cartref a mwy o gysylltiad â chefnogwyr.
Dyweddod Jack Sharp, pennaeth cyngheiriau domestig CBDC: "Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gallu rhannu fformat newydd JD Cymru Premier ar gyfer tymor 2026/27 ymlaen."
""Roedd hi'n bwysig nodi strwythur a fyddai'n caniatáu i'n clybiau ffynnu, gan alluogi’r CBDC i weithio tuag at ganlyniadau strategaeth JD Cymru Premier a chael cynghrair uwch y gall y wlad fod yn falch ohoni."
""Rhedwyd proses ddadansoddol a seiliedig ar ddata i ddadansoddi’r strwythur cynghrair gorau’n drylwyr o safbwynt egwyddorion canllaw. Rydyn ni wedi adeiladu model lle mae cysylltiad yn ganolog i’n cynghrair wrth i ni anelu at greu JD Cymru Premier sy’n fwy cyffrous."
""Roedd hi’n wych gweld positifrwydd ein clybiau JD Cymru Premier wrth dderbyn y fformat newydd a’r cyffro a ddaeth o’r cyfarfod diweddar gyda pherchnogion y clybiau."
Bydd mwy o fanylion ar y fformat newydd yn cael eu cyhoeddi wrth i dymor 2026-27 agosáu.