Miloedd yn mwynhau haf o hwyl a ffitrwydd

Saturday, 7 September 2024 01:51

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae dros 12,000 o bobl wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a gynhaliwyd ar draws Ynys Môn yn ystod gwyliau haf yr ysgol.

Yn ôl Môn Actif, mae Tîm Datblygu Chwaraeon wedi darparu ystod eang o gyfleoedd yn ystod gwyliau'r haf, mewn partneriaeth â phartneriaid allweddol, sefydliadau, cyrff llywodraethol cenedlaethol a gwasanaethau

Gwelodd rhaglen Môn Actif haf 2024…

  • 12,492 o gyfranogwyr ar draws pob digwyddiad
  • 148 gwersyll unigol / digwyddiad wedi’u cynnal dros 34 diwrnod
  • 581 o oriau wedi’u darparu
  • 40 o leoliadau gwahanol wedi’u cynnwys
  • 453 wedi cael cynnig cyflenwad bwyd
  • 48 o bobl ifanc yn derbyn cymwysterau newydd trwy ‘Mini Medics’, Cymorth Cyntaf a chyrsiau Arweinwyr Chwaraeon
  • 9 gweithgaredd benodol / digwyddiadau ar gyfer pobl ag anableddau drwy gydol yr haf.

Roedd rhai ardaloedd o Ynys Môn wedi mwynhau darpariaeth anhygoel o 6 diwrnod yr wythnos gyda rhai dyddiau'n cynnig 4-5 o weithgareddau gwahanol y dydd, yn estyn allan at bobl o bob oed a gallu mewn cymunedau amrywiol.

Yn ogystal â'r gweithgareddau cyffredinol, bu Môn Actif hefyd yn arwain ac yn cefnogi digwyddiadau allweddol ym mis Awst, yn cynnwys:

  • Digwyddiad Cymunedol ‘Swim Safe’ ar Y Fenai
  • Digwyddiad Cenedlaethol Chwarae yng Nghlwb Rygbi Llangefni
  • Ardal Actif a Phentref Chwaraeon Sioe Môn Actif
  • Digwyddiad Cyfres Insport yng Nghanolfan Hamdden Caergybi
  • Gŵyl Hwyl Pêl-Droed McDonalds yn Biwmares
  • Digwyddiad Arfor / FAW gyda ymweliad gan rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Craig Bellamy
  • Diwrnodau Hwyl i’r Teulu yng Nghanolfannau Hamdden Amlwch a Chaergybi
  • Digwyddiad i ddathlu penblwydd cyntaf ‘Junior Parkrun’ ym Mhlas Newydd

Dywedodd Barry Edwards, Rheolwr y Tîm Datblygu Chwaraeon o Môn Actif: "Mae Ynys Môn yn ynys fendigedig gyda chymaint o adnoddau naturiol, mannau gwyrdd a thraethau hardd felly mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd mantais o’r hyn sydd gennym yma ar ein stepan drws."

"Er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni y gora i bobl Ynys Môn, mae'r tîm wedi gwneud gwaith tu hwnt yr haf hwn i wneud gwahaniaeth sylweddol yn ein cymunedau."

"Rydym wedi bod yn gweithio gyda fformiwla syml sef - creu mwy o gyfleoedd wrth chwalu’r rhwystrau o ran teithio a chostau, sydd yn arwain at plant, oedolion, rhieni, teuluoedd a chymunedau mwy actif, iachach a hapusach."

"Rydym bellach yn symud ein ffocws at amserlen y tymor yn ogystal â dechrau'r broses o gynllunio ar gyfer ein rhaglen brysur ar gyfer hanner tymor mis Hydref, lle byddwn unwaith eto yn ymgysylltu ac yn cydweithio'n effeithiol â'n partneriaid allweddol i gyflawni'r gorau ar gyfer Ynys Môn."

Ychwanegodd y Cynghorydd Neville Evans, deiliad y portffolio hamdden Cyngor Môn: "Roedd rhaglen haf Môn Actif yn amrywiol, yn gyffrous ac yn hynod bwysig o ran cadw'n heini ac yn iach."

"Mae plant a theuluoedd wir yn gwerthfawrogi’r gweithgareddau hyn, ac eleni cynhaliwyd pob math o weithgareddau a chwaraeon yn ein canolfannau hamdden ac yn y cymunedau eu hunain."

“Roedd gweithgareddau ar gael ar gyfer pob oedran, gan gynnwys gwersylloedd diogelwch dŵr, gweithgareddau ar y traeth, gweithgareddau yn y parc, gwersylloedd pêl-droed, sesiynau rygbi, sesiynau penodol ar gyfer pobl ag anableddau yn ogystal â diwrnodau hwyl i’r teulu gyda nifer fawr o weithgareddau."

"Roedd sesiynau Sioe Môn yn hynod o brysur a mi oedd yn gyfle i gael cipolwg o’r gwaith gwych y mae timau Môn Actif yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn."

More from Chwaraeon

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'