Mae Cymru wedi cyhoeddi carfan ar gyfer gêm ail-gyfle yn erbyn Slofacia am lle ym mhencampwriaeth Ewros y Merched.
Mae Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi 25 chwaraewr wrth i Gymru edrych i wneud hanes a chyrraedd pencwmpwriaeth rhyngwladol am y tro cyntaf.
Mae'r garfan yn cynnwys Jess Fishlock, sydd wedi sgorio mwy o goliau nag unrhyw chwaraewr arall yn hanes y gêm yng Nghymru.
Ond mae’r chwaraewr canol cae wedi bod yn absennol o’i glwb, Seattle Reign, oherwydd anaf i’w goes - ac nid yw hi wedi chwarae gêm ers mis diwethaf.
Bydd Angharad James yn ymuno efo’r carfan fel capten am y tro gyntaf gyda Ceri Holland ac Hayley Ladd yn ymuno fel is-gapteiniad.
Ni fydd Sophie Ingle ar gael oherwydd anaf ACL yn ystod y cyfnod gyn-dymor, ond fydd Josie Green ac Anna Filbey yn dychwelyd i’r garfan.
Mae Wilkinson hefyd wedi dewis tri blaenwr ddi-gap; Mared Griffiths, Tianna Teisar a Charlotte Lee, a fydd yn rhan o’r garfan am y tro gyntaf ar ôl bod yn rhan o’r tîm dan 19 tymor diwethaf.
Mae Hannah Cain yn dychwelyd i'r garfan gyda’r CBDC yn gweithio ochr yn ochr â Leicester City ar y camau olaf wrth iddi hi ddod nol o anaf ACL.
Mae Cymru yn mynd i mewn i’r rownd ail-gyfle heb golli gêm yn 2024. Yn ystod yr ymgyrch ragbrofol hyd yn hyn, mae tîm Wilkinson wedi ennill pedair gêm a chael dwy gêm gyfartal, gan sgorio deunaw gôl yn y broses.
Gall Cymru fod bedair gêm i ffwrdd o gyrraedd rowndiau terfynol Ewros, gan ddechrau gyda rownd gyn-derfynol yn erbyn Slofacia yn Poprad ar dydd Gwener 25 Hydref ac yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Fawrth 29 Hydref.
Os bydd Cymru yn symud ymlaen i’r rownd derfynol, byddant yn chwarae dwy gêm yn erbyn naill ai Georgia neu Weriniaeth Iwerddon ar ddydd Gwener 29 Tachwedd a dydd Mawrth 3 Rhagfyr i benderfynu pwy fydd yn cyrraedd y rowndiau terfynol EURO yn y Swistir y flwyddyn nesaf.
Tîm Cymru i wynebu Slofacia: Olivia Clark (Twente), Laura O’Sullivan-Jones (Gwalia), Safia Middleton Patel (Manchester United), Rhiannon Roberts (Real Betis), Josie Green (Crystal Palace), Charlie Estcourt (DC Power), Hayley Ladd (Manchester United), Gemma Evans (Lerpwl), Mayzee Davies (Liverpool Feds / Manchester United), Lily Woodham (Crystal Palace - ar fenthyg o Seattle Reign), Ella Powell (Bristol City), Anna Filbey (Watford), Alice Griffiths (Southampton), Angharad James (Seattle Reign), Lois Joel (Newcastle), Rachel Rowe (Southampton), Carrie Jones (IFK Norrköping), Ffion Morgan (Bristol City), Jess Fishlock (Seattle Reign), Ceri Holland (Lerpwl), Charlotte Lee (Aston Villa), Kayleigh Barton (Charlton), Mary McAteer (Sunderland), Mared Griffiths (Manchester United), Tianna Teisar (Bristol City), Hannah Cain (Caerlŷr).