Gwirfoddoli gyda MônFM

Gwirfoddoli gyda MônFM

Ydych chi’n ystyried gyrfa yn y cyfryngau, yn chwilio am her newydd, neu eisiau rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol? Gall gwirfoddoli gyda MônFM fod yn gyfle gwych i chi!

Mae MônFM yn ddibynnol ar ymroddiad gwirfoddolwyr o bob rhan o Ogledd-orllewin Cymru, ac rydym bob amser yn awyddus i groesawu lleisiau newydd.

Mae amrywiaeth eang o rolau ar gael yn MônFM.

Parhewch i ddarllen i ddarganfod mwy!

Elfyn a Sharon yn fyw o Sioe Môn

Pam gwirfoddoli gyda MônFM?

Datblygu Sgiliau Newydd

  • Fel gwirfoddolwr yn MônFM, cewch y cyfle i ddefnyddio offer safon diwydiant ac fe gewch gyfle i ddatblygu bob math o sgiliau defnyddiol – sgiliau a all arwain at yrfa yn y cyfryngau. O fod yn gyflwynydd radio i fod yn gynhyrchydd, peiriannydd i swyddog marchnata, mae sawl rôl ar gael i chi yn MônFM.

Profiad Gwaith

  • Wrth wirfoddoli yma yn MônFM, fe cewch ddysgu llawer am y byd radio, technoleg, cyfryngau cymdeithasol, newyddiaduriaeth, a llawer, llawer mwy! Mae sawl un o’n gwirfoddolwyr wedi dweud bod eu hamser yn MônFM wedi bod yn help mawr iddynt wrth chwilio am waith llawn amser. Mae rhai o’n gwirfoddolwyr wedi symud ymlaen i swyddi yn y byd radio masnachol, y BBC, teledu, a’r gwasanaeth iechyd.

Cwrdd â Phobl Newydd

  • P’un ai yn y stiwdio neu wrth fynychu un o’n digwyddiadau yn y gymuned, mae llawer o gyfleoedd i gwrdd â gweddill o wirfoddolwyr MônFM! Mae hyn yn ffordd wych o ddod i adnabod llawer o bobl newydd.

Gwella Eich Hyder

  • Mae ein mentoriaid yma i’ch helpu chi. Byddant yn eich cefnogi wrth i chi ddatblygu eich sgiliau. Byddwn yn sicrhau eich bod chi’n hyderus yn eich rôl yn MônFM.

Rhoi’n ôl i’r Gymuned

  • Ein prif nod yn MônFM yw darlledu er lles ein cymuned ni. Rydym yn hoff o fynychu digwyddiadau lleol, cyfweld â cherddorion lleol, a darparu adloniant i’n gwrandawyr. Drwy ymuno â’n tîm, byddwch yn ein helpu i wneud effaith gadarnhaol ar ein cymuned.

Pwy yda ni'n chwilio am?

Nid oes angen profiad blaenorol! Byddwn yn darparu’r hyfforddiant a’r cymorth sydd eu hangen arnoch.

Er ein bod yn hapus iawn i’ch helpu chi i gychwyn eich gyrfa yn y cyfryngau, rydym yn chwilio am bobl sydd am gefnogi ein cymuned leol. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i fynychu ein digwyddiadau cymunedol, cynorthwyo i godi arian, a chyflwyno sioeau a fydd yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol i’n cymuned.

Ar gyfer y rhan fwyaf o’r rolau, bydd angen i chi allu teithio i’n Stiwdios yn Llangefni.

Bydd angen i chi gadw at ein polisïau a pholisïau ein rheoleiddiwr, Ofcom.

Rhaid i chi fod 18 mlwydd oed neu’n hŷn.

Tom Cooke yn paratoi fan MônFM / Tom Cooke preparing the MônFM van

Cyfleoedd yn MônFM

Dyma rhai o’r cyfleoedd sydd ar gael yn MônFM. Methu ffeindio rôl i’ch siwtio chi? Cysylltwch â ni!

Cyflwynydd Radio

  • Cyflwyno sioeau radio byw o’n stiwdios yn Llangefni.

Cynhyrchydd Radio

  • Cefnogi ein cyflwynwyr drwy ddatblygu syniadau ar gyfer sioeau, trefnu cyfweliadau, golygu clipiau, a goruchwylio rhaglenni radio.

Peiriannydd Darlledu

  • Cynnal a chadw holl sustemau technegol MônFM, gan gynnwys ein stiwdios, trosglwyddwyr radio, ac offer darlledu allanol.

Newyddiadurwr

  • Paratoi bwletinau radio (newyddion, teithio a thywydd) ar gyfer MônFM, a pharatoi cynnwys ar gyfer ein gwefan, ap a chyfryngau cymdeithasol.

Aelod Tîm Digwyddiadau

  • Cynrychioli MônFM mewn digwyddiadau ar hyd a lled ein hardal. Sgwrsio gyda’n gwrandawyr, rhannu gwybodaeth a chynorthwyo ein tîm darlledu.

Swyddog Hel Arian

  • Datblygu syniadau i hel arian i gefnogi MônFM.

Gofalwr

  • Cynnal a chadw ein canolfan ddarlledu, gan sicrhau bod y swyddfa a’r stiwdios yn ddiogel ac yn daclus.

Bwth am ymuno â'r tîm? Cysylltwch heddiw!

 

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Snap, Crackle, and Pop!

    7:00pm - 9:00pm

    Tom Cooke delves into his Vinyl collection every Monday evening on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'